Yr Herald Cymraeg logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow Newyddion | Yr Herald a'i Hanes | Cysylltiadau     
Yr Herald Cymraeg
Yr Herald Cymraeg
White spacer

Croeso i wefan newydd Yr Herald Cymraeg. Mae'r safle'n gydymaith clos i'r atodiad sy'n ymddangos bob dydd Mercher gyda'r Daily Post. Ond wrth gwrs, ar wefan fel hon gallwn gynnig rhywbeth gwahanol i'r gair printiedig, a gallwch fentro hefyd y bydd datblygiadau newydd yn ymddangos yn rheolaidd. Mwynhewch eich ymweliad, a gadewch inni wybod eich barn amdano.
White spacer
Newyddion

Yr Herald  
Prifwyl yn y brifddinas yn ennyn diddordeb mewn diwylliant Cymru
Prifwyl yn y brifddinas yn ennyn diddordeb mewn diwylliant Cymru
TÁN gwyllt, torfeydd enfawr a’r castell yng nghanol y ddinas wedi ei oleuo’n binc. Ydy mae’r Eisteddfod yn ôl yn y brifddinas am y tro cyntaf ers 1978. Ac er nad oes fawr o arwyddion amlwg ym mhrif strydoedd y ddinas fod yr Eisteddfod yn cymeryd lle llai na chwarter awr o gerdded o’r stadiwm rygbi enfawr, mae miloedd o bobl wedi bod draw i feysydd Pontcanna i flasu’r yl. more

Dail tafol o ddefnydd i esmwytháu traed blinedig
DIOLCH yn fawr i Gwyneth Johnstone, Llanrwst am ei llythyr diddorol. Ydi, mae cwpled Eifion Wyn yn un dda yn dydi? A dydi o’n resyn nad ydan ni bellach yn clywed rhegen yr yd? more

Cadw llygad barcud ar y gweilch
AR bnawn eithriadol o boeth y cyrhaeddais i Bont Croesor, a phobman newydd gael ei olchi’n lân gan gawod o lâw taranau. Wedi dod i weld gweilch y pysgod roeddwn i, wrth reswm, a dyna beth braf oedd cael cerdded i mewn i’r garafán a gweld fod pawb oedd yno mor frwdfrydig ynglyn â’r prosiect. A neb yn fwy felly nag Emyr Evans, rheolwr y prosiect a fo adroddodd hanes gweilch y Glaslyn wrtha i. more

Llawenhau am ei bod hi’n ddigon braf i allu rhoi’r dillad allan
MAE’N fore Llun, a dwi newydd fod allan yn rhoi dillad ar y lein. Roedd fy ngr bron iawn a gwneud, a gwaeddais “Na! joban fi yw honna!” Mae’n siwr mai eisiau esgus i fynd i’r ardd yr oedd, ond faswn i’n flin iawn petawn wedi colli’r ddefod. Wedi danfon y mab i’r ysgol, dyma ddod adre a gwagio’r peiriant golchi – ac yna allan â fi i’r ardd fel Beti Bwt â’r bag pegiau yn fy llaw. more



Copyright and Trade Mark Notice
© owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited 2008 icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.